PET(4)-01-12 p2a

 

P-04-351 Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi’r gorau i ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau ac a ddefnyddir i chwyddo niferoedd y tai mewn cynlluniau datblygu lleol. Galwn am i’r holl CDLl, waeth pa mor bell maent wedi cyrraedd, gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.

 

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod o’r farn fod yr holl CDLl sy’n cael eu llywio gan amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru heb eu hystyried yn fanwl, eu bod yn sylfaenol wallus ac yn niweidiol i gymunedau Cymru.

 

Nid yw’r math hwn o gynllunio yn gynaliadwy, ac nid oes ar bobl Cymru mo’i angen na’i eisiau. Er mwyn atal y niwed sydd eisoes yn cael ei wneud, ac i atal niwed a dinistr pellach na ellir eu gwrthdroi yn ein cymunedau, ein hamgylchedd a’n hunaniaeth ledled Cymru, apeliwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith.

 

Prif ddeisebydd: Cynghorydd Carrie Harper

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 10 Ionawr 2012

Nifer y deisebwyr: 2,471

 

Gwybodaeth ategol:
Mae nam sylfaenol yn fformiwla amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru, gan ei bod yn dibynnu’n helaeth ar dueddiadau o’r gorffennol o ran mudo i Gymru heb roi ystyriaeth i’r hyn sy’n fforddiadwy. Mae defnyddio’r fformiwla hon yn dal i arwain at lefelau annaturiol o uchel o dai a thwf yn y boblogaeth a fydd yn cael eu gweithredu drwy gyfrwng ein CDLl. Mae goblygiadau gweithredu cynlluniau o’r fath yn anferth, ac maent yn effeithio ar lawer agwedd ar fywyd ar hyd a lled y wlad:

Hunaniaeth a hawliau dynol (o ran hunaniaeth, iaith, diwylliant, cymeriad a mynegiant pobl Cymru). Yn amgylcheddol (o ran bod yn gynaliadwy, ecoleg, cynefin naturiol a’r amgylchedd adeiladau) a chynaliadwyedd cymdeithasau (o ran demograffeg, economeg, gwleidyddiaeth a chymunedau).

Mae awdurdodau lleol wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn ofnus ynglŷn âgwyro i unrhyw raddau helaeth oddi wrth y ffigurau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru rhag ir Arolygiaeth Gynllunio benderfynu bod eu CDLl yn ‘ansicr’. Mae hyn yn sicrhau bod barn leol yn cael ei hanwybyddu yn ystod y broses o baratoi CDLl, ac mae ein cynrychiolwyr lleol yn ei chael yn anodd herio lefelau twf mewn tai sy’n anghynaliadwy.

Mae angen ateb gan y Llywodraeth ar frys gan nad oes digon o le yn yr ysgol gyfun bresennol a bydd yn rhaid gwrthod lle i ddisgyblion mor fuan â mis Medi 2013.